1. |
Pan O'n I Fel Ti
03:19
|
|||
PAN O'N I FEL TI
Cymryd can yn ôl,
i gael amser i feddwl.
Dyddiau fel hen ffrind, byth yn gwybod lle i fynd,
Pan o’n i fel ti..
Yn y gaeaf oer, neu yr hafau hir,
Does dim modd anghofio,
Y dinasoedd a’r trefi pell, blwyddyn nesa’ falle gwell
Pan o’n i fel ti.
Aros tan y diwedd, am y llythyr sydd byth am ddod
Does dim modd i wybod, pa bethau sydd am ddigwydd.
Dyddiau fel hen ffrind, byth yn gwybod lle i fynd
Pan o’n i fel ti.
|
||||
2. |
Belen Aur
03:37
|
|||
Belen Aur
Cwyd dy ben, mae'n gannol Haf
Mae'r belen aur yn llosgi'n braf
Dwi'n dechre teimlo fel fi fy hun
Dechre teimlo fel fi fy hun
Fe ro'n i'n isel dan, y tywydd gwael
Ond caf bwer gan, yni'r haul
Dwi'n dechre teimlo fel fi fy hun, ie
Dechre teimlo fel fo fy hun
A dyma, ddechra diwrnod newydd
Lakota, clyw
Cymeraf, bwer gan y tywydd
Dwi'n marw, i gael byw
T dyddia sydd, yn mynd yn gynt
Mynd rownd a rownd fel melin wynt
Dwi'n dechre gweld, gweld yn glir
Dwi'n dechre gweld, gweld yn glir
Harrar a Rar, Elektorna
Belenos, Tamanui Tetrena
Dwi'n dechre gweld, gweld yn glir
Dwi'n dechre gweld, gweld yn glir
|
||||
3. |
Can Wleidyddol
04:24
|
|||
4. |
Banciau Bwyd
03:27
|
|||
5. |
Frankie Wynn
03:28
|
|||
FRANKIE WYNN
Gweithio ers 17 pob dydd rhwystredigaeth,
Allan pob penwythnos gwylb, ymladd yfed dyna'i gyd
Does dim dianc i rai fel ni wedi dysgu'r wers hynny.
Fel hyn bob nos Wener, wedi dod i dderbyn
Mewn tref bach ger y môr breuddwydion byth yn dod yn ôl
Wythnos du di llusgo tan Benny's Friday Disco.
Yn hwyrach yn y bar daeth ffigwr at y drws
Dyma pawb yn canu ei enw, roedd e nol, roedd e nol, roedd e nol.
O Frankie Wynn O Frankie Wynn
Mae pawb yn gofio e ac ma e nol yn y dre
Roedd ei lygaid yn las a chlir a phob stori amdano'n wir
Roedd yn nabod y ser i gyd wedi teithio dinasoedd byd
Mae L.A yn boeth meddai a bars N.Y byth yn cau
Mae pob diod ar y lechen a'r merched i gyd yn sgrechen
ei enw Frankie Wynn. Mae e nol mae e nol mae e nol
O Frankie Wynn O Frankie Wynn
Mae pawb yn ei gofio e ac ma e nol yn y dre
O Frankie Wynn O Frankie Wynn
Mae'i lun dal uwch y bar un o'r criw wedi dod yn dda
O pe bawn i fel Frankie
|
||||
6. |
Canlyniadau
03:37
|
|||
7. |
Can Y Melinydd
03:32
|
|||
Can Y Melinydd
Mae gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed.
Mi neidith a mi brancith
O dan y feinir wen,
Mi redith ugain milltir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.
Mae gen i dý cysurus
A melin newydd sbon
A thair o wartheg brithion
Yn pori ar y fron.
Mae gen i drol a cheffyl
A merlyn bychan twt
A deg o ddefaid tewion
A mochyn yn y cwt.
Mae gen i gwpwrdd cornel
Yn llawn o lestri te
A dresel yn y gegin
A phopeth yn ei le.
Mae gen i iâr a cheiliog,
A buwch a mochyn tew
A rhwng y wraig a minnau,
Wy'n ei gwneud hi yn o lew'
Fe glywaf swn y Gog, Mae'r Gwannwyn wedi dod
Llawenhewch, mae'r Gwannwyn wedi dod.
|
||||
8. |
Falle,Falle
03:42
|
|||
FALLE FALLE
Un tro, nesi ofyn i ti un tro
Gai fyth, cyfle'i ofyn i ti eto
Wyt ti'n dal i chwilio?
Neu yw popeth wedi dod yn glir.
Pryd nes di ddysgu'r holl hyn?
Bod ê byth rhy hwyr i ddweud hwyl fawr
os ti'n gwbod sut i ddweud ên iawn.
Wyt ti'n dal i weld hi, bob lle oedd hi arfer mynd i?
Yn y golau mawr neu'r tywyllwch, yng nghanol y sŵn neu'r tawelwch
Sawl gwaith nath hi ganu i ti, sawl gwaith?
Breuddwyd, dim ond gweld ti nawr mewn breuddwyd.
Pryd fydd pethau'n cwympo'n eu lle?
Tan y tro nesa falle, falle.
Fel cysgod aiff hi fyth yn anghof.
Pan mae pethau'n dywyll ac yn ddu, dyna pryd ti'n sylweddoli
Wyt ti'n dal i weld hi, bo lle oedd hi arfer mynd i?
Yn y golau mawr neu'r tywyllwch, yng nghanol y sŵn neu'r tawelwch
Pryd nes di ddysgu'r holl bethau hyn?
Bod ê byth rhy hwyr i ddweud hwyl fawr
os ti'n gwbod sut i ddweud ên iawn.
Wyt ti'n dal i weld hi, bo lle oedd hi arfer mynd i?
Yn y golau mawr neu'r tywyllwch, yng nghanol y sŵn neu'r tawelwch
|
||||
9. |
Philippe Petit
03:22
|
|||
Cerdded trwy yr awyr fel Phillipe Petit.
|
||||
10. |
Uwch Na'r Ser
05:08
|
Streaming and Download help
If you like Endaf Gremlin, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp